Sophonisba Breckinridge

Sophonisba Breckinridge
Ganwyd1 Ebrill 1866 Edit this on Wikidata
Lexington, Kentucky Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 1948 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Wellesley
  • Ysgol y Gyfraith Prifysgol Chicago Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, academydd, gwyddonydd gwleidyddol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, economegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadWilliam Campbell Preston Breckinridge Edit this on Wikidata
MamIssa Breckenridge Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Sophonisba Breckinridge (1 Ebrill 1866 - 30 Gorffennaf 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr, academydd a swffragét. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Ph.D. mewn gwyddoniaeth wleidyddol ac economeg yna'r Juris Doctor (doethur yn y gyfraith) cyntaf ym Mhrifysgol Chicago, a hi oedd y fenyw gyntaf i basio'r bar yn Kentucky. Yn 1933 anfonodd yr Arlywydd Roosevelt hi fel dirprwy i'r 7fed Gynhadledd Pan-Americanaidd yn Wrwgwái - gan ei gwneud hi'r fenyw gyntaf i gynrychioli llywodraeth yr UDA mewn cynhadledd ryngwladol. Arweiniodd y broses o greu'r radd a'r ddisgyblaeth academaidd ar gyfer gwaith cymdeithasol.

Cafodd Sophonisba "Nisba" Preston Breckinridge ei geni yn Lexington, Kentucky ar 1 Ebrill 1866 a bu farw yn Chicago. Hi oedd ail blentyn allan o saith i Issa Desha Breckinridge, ail wraig y Col. William C.P. Breckinridge, aelod o'r Gyngres a hanai o Kentucky, golygydd a chyfreithiwr.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search